Digwyddiad Dadgomisynu Niwclear - 7fed Ebrill 2022
A oes gan eich busnes brofiad mewn peirianneg; strwythurol, sifil neu bensaernïol? Neu efallai, eich bod yn adeiladwr neu drydanwr? Neu hyd yn oed arbenigwr mewn rheoli gwastraff? A ydych wedi ystyried y gallai fod cyfleoedd i’ch busnes o fewn y sector datgomisiynu niwclear? Dyma’r math o sgiliau sydd eu hangen i fanteisio ar y gwariant amcangyfrifedig o £160 biliwn yn sector y DU dros y 120 mlynedd nesaf!
Ar y 7fed o Ebrill 2022, roedd yr Hwb Menter yn falch o allu hwyluso digwyddiad yn yr Hwb yn M-SParc, Gaerwen, gyda’r bwriad o amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau lleol yn y sector dadgomisynu niwclear.
Os nad oeddech yn anffodus yn gallu bod yn bresennol edrychwch ar y fideo uchod neu bori trwy'r cyflwyniadau isod. Rydym ar hyn o bryd yn trafod y camau nesaf ond os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r sector, cysylltwch â ni ar 01248 858 070 / post@hwbmenter.cymru.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr
Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!


