Aelod Hwb: Nicola ac Aled Griffiths - Coed Y Ddraig
4 Tachwedd
2020
Wedi'i ysbrydoli gan foment o ddiflastod yn ystod y cyfnod clo, ganwyd Coed y Ddraig. Mae'r cwmni'n creu eitemau pren pwrpasol gan gynnwys seddau ac addurniadau, a llwyddodd i sicrhau arian grant Arfor drwy'r Hwb Menter er mwyn sicrhau bod ganddynt yr offer cywir ar gyfer y swydd. Mae Coed y Ddraig wedi gweld newid o greu eitemau i deulu a ffrindiau, i werthu i ddieithriaid drwy eu siopau ar-lein, ac mae'r busnes yn tyfu o nerth i nerth.
Mae Coed y Ddraig yn cael ei rhedeg gan dîm gŵr a gwraig, Nicola ac Aled Griffiths. Maen nhw’n creu cynnyrch pren i’r cartref gan gynnwys byrddau torri, dalwyr cannwyll a meinciau. Dechreuodd y busnes, fel llawer o rai eraill eleni, yn ystod y cyfnod clo mis Mawrth. Saer coed yw Aled o ran ei grefft, ac roedd wedi diflasu o amgylch y tŷ, felly un diwrnod aeth i'r gweithdy a chreu mainc. Rhoddodd Nicola lun o'r fainc ar Facebook, a dechreuodd pobl ofyn ar unwaith a oedd ar werth. “Fe wnaeth hynny i ni feddwl, efallai y gallem wneud pethau i'w gwerthu! Roeddem eisoes wedi clywed am yr Hwb Menter, roedd gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed mwy am Ofod Creu Ffiws a gwelsom gyfle i wneud cais am grant busnes gyda chymorth yr Hwb. Helpodd arian grant Arfor ni i brynu offer newydd er mwyn creu eitemau mwy cystadleuol o ansawdd gwell!”
Nododd Nicola fod Covid-19 wedi creu adeg lle'r oedd yn fantais i fusnes fel Coed y Ddraig, gan fod gan bobl fwy o amser i bori cyfryngau cymdeithasol – lle roedd yr eitemau yn cael eu hysbysebu. Roedd pobl hefyd yn llawer mwy ymwybodol o gefnogi busnesau lleol, ac mae Nicola yn teimlo bod enw Cymraeg a marchnata dwyieithog Coed y Ddraig wedi helpu yn hyn o beth hefyd. Hefyd, ni fyddai'r cwpl erioed wedi cael amser i ddechrau busnes oni bai am y cyfnod clo!
Daeth eu munud busnes mwyaf balch pan brynodd dieithryn, yn hytrach na ffrind, un o'u heitemau. Meddai Nicola “Byddwn yn cynghori eraill i wneud rhywfaint o waith ymchwil pan fyddwch yn dechrau, i gael gwybod beth mae eich cystadleuwyr yn ei godi. Hefyd, mae'r delweddau rydych chi'n eu defnyddio mor bwysig, felly efallai buddsoddi mewn pecynnau goleuo syml ac yn y blaen. Yn olaf, peidiwch â dibynnu ar ffrindiau a theulu i brynu gennych chi – mae eich cynulleidfa darged yn bwysig iawn.”
Dywedodd Sara, Cydlynydd yr Hwb Menter, “Mae'n wych gweld cynifer o fusnesau'n datblygu yn ystod y cyfnod clo. Roedd gennym bryderon ynghylch sut y byddai Covid19 yn effeithio ar yr amgylchedd cychwyn busnes, ond rydym wedi gweld pobl yn fwy arloesol nag erioed, ac mae'n wych gweld cwmnïau fel Coed y Ddraig yn dod yn rhan o'r Clwb Hwb. Mae ein Ymgynghorwyr Busnes wrth eu bodd yn gweithio gydag amrywiaeth o wahanol gwmnïau, i roi cyngor a chymorth sy'n bwrpasol ac yn hyblyg i'w hanghenion.”
Mae’r Hwb Menter yn brosiect a ariennir yn rhannol gan Y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Tanysgrifwch i’n cylchlythyr
Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!