Aelod Hwb: Mona Digital
20 Hydref
2021
Graddiodd Dafydd Weightman o Brifysgol Bangor yn ystod y pandemig! Roedd Dafydd wedi bod yn intern ym Mharc Gwyddoniaeth Menai lle cafodd brofiad mewn meysydd yn cynnwys marchnata, ffotograffiaeth a ffilmyddiaeth. Wedyn, cafodd ei annog i gychwyn ei gwmni ei hun - Mona Digital. Mae’n darparu gwasanaethau fel fideograffi, cynllunio gwefannau ac hyd yn oed gweithredwr drôn llawrydd!
Dafydd, mae’n wych gweld person ifanc yn cychwyn ar siwrnai entrepreneuaidd, alle ti sôn sut cychwynnodd pethau i ti?
Mi gefais lawer o help gan Barc Gwyddoniaeth Menai i gychwyn, lle roeddwn newydd gwblhau interniaeth. Gwelodd Pryderi, y Rheolwr Gyfarwyddwr, fod gen i ddiddordeb cychwyn fy musnes fy hun, a bu’n hynod gefnogol. Soniodd wrthyf am yr Hwb Menter, a dyma fi!
Mae dy fusnes yn dal yn ifanc ar hyn o bryd, ond oes yna uchafbwyntiau hyd yma?
Mi fyddwn i’n dweud mai cymryd y cam cyntaf i gychwyn y busnes oedd y peth gorau, a’i weld yn gweithio! Dwi eisoes wedi sicrhau peth gwaith llawrydd ac mae gennyf gwsmeriaid ffyddlon ac mae hynny wedi rhoi llawer o hyder i mi. Dwi’n dal i ddysgu, a phe byddwn i’n cychwyn o’r dechrau eto, byddwn wedi treulio ychydig mwy o amser yn ymchwilio i’r gwahanol feysydd i fentro iddynt. Wrth gwrs, mae gen i ddigon o amser i ddatblygu hyn eto, ond rwy’n canolbwyntio nawr ar fy ngwaith fel gweithredwr drôn tra dwi’n datblygu agweddau eraill ar fy musnes.
Mae hyn yn swnio’n wych ac rydym yma i helpu. Oes yna unrhyw fath o gefnogaeth fyddet ti’n ei argymell i eraill?
Yn bendant, roedd y cyngor busnes a gefais yn help mawr i mi gychwyn fy musnes fy hun! Mae’r gefnogaeth dwi wedi ei chael o’r Hwb Menter, gan gynnwys y digwyddiadau, wedi rhoi’r hyder a’r wybodaeth angenrheidiol i mi gychwyn fy musnes! Mae bod yn rhan o’r gymuned yn yr Hwb Menter wedi bod yn fanteisiol hefyd gan fy mod wedi cael gwaith gan aelodau eraill o’r Hwb.
Mae’n edrych felly fod y busnes yn ‘hedfan’, ac edrychwn ymlaen i gydweithio wrth i ti ddatblygu dy fusnes newydd.
Tanysgrifwch i’n cylchlythyr
Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!