Gwobrau Menter Môn 2024

DSC 4798

31 Hydref
2024

Cafwyd noson anhygoel yn dathlu llwyddiannau busnesau a grwpiau cymunedol Ynys Môn a Gwynedd yn noson Gwobrau Menter Môn.  Roedd y gwobrau hyn yn agored i unigolion / busnesau sydd wedi cymryd rhan yn brosiectau SPF a NDA Menter Môn, sef Hwb Menter, Balchder Bro a Grymuso Gwynedd. Roedden yn awyddus i ddathlu eich llwyddiannau chi. O’r ysbryd entrepreneuriaid i’r mentrau llwyddiannus sy’n helpu i wneud Ynys Môn a Gwynedd  yn rhagorol.

Cafodd enillwyr bob categori eu gwahodd i noson dathlu yn Galeri ar yr 11eg o Hydref 2024. Cyfle gwych i ddathlu eich cyflawniadau a rhwydweithio gyda busnesau a grwpiau eraill.  Gwyliwch fideo o'r noson isod.

Categorïau Hwb Menter

1. BUSNES NEWYDD Y FLWYDDYN, GWYNEDD - Cymro Vintage

Roedd y wobr hon i fusnes arbennig sydd wedi cychwyn busnes yng Ngwynedd o fewn y flwyddyn ddiwethaf.  Gwyliwch fideo astudiaeth achos o'r busnes isod.

2. BUSNES NEWYDD Y FLWYDDYN, YNYS MÔN - Kico’s Dessert Bar

Roedd y wobr hon i fusnes arbennig sydd wedi cychwyn busnes ar Ynys Môn o fewn y flwyddyn ddiwethaf.  Gwyliwch fideo astudiaeth achos o'r busnes isod.

3. RHYFELWR ECO - Arfon Timber Frames
 

Pwrpas y wobr hon oedd cydnabod busnesau sydd â chymwysterau gwyrdd. Unai yn fusnes moesegol neu’n gymdeithasol gyfrifol.  Gwyliwch fideo astudiaeth achos o'r busnes isod.

4. ARLOESWR ARBENNIG - Klaire Tanner
 

Pwrpas y wobr hon oedd cydnabod arloeswyr arbennig yng Ngwynedd neu Ynys Môn. Mae’r wobr hon yn cydnabod unigolion neu dimau sydd wedi dangos creadigrwydd a gweledigaeth eithriadol, wrth ddatblygu atebion arloesol.  Gwyliwch fideo astudiaeth achos o'r busnes isod.
 

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!