Ffiws ydi enw ein gofod gwneud!
Mae'r Ffiws wedi ei greu mewn partneriaeth ag Menter Môn, Cyngor Gwynedd, Arloesi Gwynedd Wledig, a Chynllun Arfor. Felly efallai y gwelwch chi y logo mewn sawl man ar hyd y rhanbarth. Fel Aelod o'r Hwb Menter, gallwch ddefnyddio Ffiws yn M-SParc, Canolfan Fusnes Conwy a Costigans, Rhyl.
Ar ôl i chi gael sesiwn cyflwyno mewn un lleoliad Ffiws, gallwch ddefnyddio nhw i gyd! Mae hynny'n cynnwys Ffiws Menter Môn ym Morthmadog. Mae yna nifer o ofodau gwneud Ffiws eraill yn cael eu hagor ar draws Gwynedd a Môn, gwiriwch yn ôl yma am restr lawn unwaith y bydd ar gael.

Mae Ffiws yn lle perffaith i brototeipio syniadau. Mae'r offer sydd ar gael yn cynnwys:
- Argraffydd a Thorrwr Vinyl
- Gwasg Mwg
- Gwasg Gwres
- Torrwr Laser
- Argraffwyr 3D
- Heyrn sodro

Mae Ffiws yn caniatáu ichi brofi syniadau, a gweld a ydyn nhw'n ymarferol, cyn i chi fynd ymlaen i gynhyrchu, ddefnyddio'r cynnyrch neu archebu peiriant eich hun.
Os hoffech chi ddefnyddio'r lle, yn gyntaf bydd angen sesiwn sefydlu diogelwch arnoch chi. Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau neu cysylltwch â ni.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr
Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!


