Miwtini
Gweithredwch, dechreuwch Miwtini yn eich bywyd, dechreuwch eich busnes!
Mae Miwtini yn rhaglen bwrpasol a grëwyd i'ch helpu i gychwyn eich busnes. Rydych chi eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd, gwneud i rywbeth ddigwydd. Rydych chi'n ceisio gwneud newid. Mae Miwtini yn wrthryfel agored yn erbyn y status quo. Ewch eich ffordd eich hun, gwnewch eich peth eich hun. Eich Busnes. Eich ffordd.
Fe'i crëwyd yn wreiddiol fel rhaglen 8 wythnos ond gellir ei haddasu i fod yn gwpl o brynhawniau'r mis neu hyd yn oed un diwrnod llawn. Beth sydd yn dda am y rhaglen hon yw y gellir ei haddasu i weddu i anghenion a sectorau amrywiol.
Ym mis Ionawr 2024 bydd cyfle i ymuno gyda Miwtini i ddechrau busnes canol tref! Cysylltwch â ni ar 01248 858 070 / post@hwbmenter.cymru i fod yn rhan o'r rhaglen.

Os nad ydych yn barod am Miwtini, mae gennym lawer mwy o ffyrdd i'ch cefnogi, beth am ddigwyddiad neu gyfarfod un i un gyda Chynghorydd Busnes?
Tanysgrifwch i’n cylchlythyr
Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!


